{I wr bonheddig ac iw ferch}
1 Iefan Ior gwaew dan gwiwdad
2 Iawnfab Gryffyth cythrudd cad
3 fab llewelyn wyn wingaer
4 llwyd vnben wyd iawn ben aer
5 Y nos aral naws eirial
6 Y bum i'th dy bo maith dal
7 nid hawdd er hynny hyd heddyw
8 hoen wymp i'm gaffael hun wiw
9 Dy aur a gawn roddlawn rydd
10 dy loew-win dy lawenydd
11 Dy fedd glas difaddau gler
12 dy fragod du ei friger
13 Dy ferch gwn na ordderchai
14 fain-wen deg o'th faen-wyn dai
15 Ni chyscais ni wydiais wawd
16 hun nai dryll heiniau drallawd
17 Duw lwyd pwy a'm dilidia
18 dim yn fynghalon nid a
19 Eithr ei chariad taladwy
20 O rhoid i'm oll ai rhaid mwy
21 Nim car hon neum curia haint
22 Nim gad hun o'm gad henaint
23 Rhyfedd gan ddoethion Rhufain
24 Ryfedded pryd fy myd main
25 Gwynach yw noc eiry gwanwyn
26 gweddw wyf o serch y ferch fwyn
27 Gwyn yw'r tal dan wialen
28 du yw'r gwallt diwair yw gwen
29 Duach yw'r gwallt diochr gwydd
30 no mwyalch ne gae mawydd
31 Gwynder disathr ar lathr gnawd
32 yn duo 'r gwallt iawnder gwawd
33 Nid anhebic ddiddic ddydd
34 modd ei phryd medd ei phrydydd
35 I'r ferch hygar a garawdd
36 Y milwr gynt mau lwyr gawdd
37 peredur ddwysgur ddisgwyl
38 ap Efrawc gwrdd farchawg gwy[ ]
39 Pan oedd yn edrych wych wawl
40 yn yr eiry ion eryrawl
41 [9r] llenn assur gaer llwyn Essyllt
42 llwybr balch lle bassai'r gwalch gwyllt
43 yn lladd heb neb ae lluddiai
44 mwyalch morwyn falch ar fai
45 yno'r oedd iawn arwyddion
46 Pan'd Duw ai tal paintiad hon
47 Mewn ery gogyfuwch luwch lwyth
48 modd ei thâl medd ei thylwyth
49 Ascell y fwyalch escud
50 megis ei hael megais hud
51 Gwaed yr edn gwedi'r odi
52 gradd haul mal ei gruddiau hi
53 felly mae eurgae organ
54 dyddgu ar gwallt gloew-ddu glan
55 Beirniad fum gynt hynt hyntiaw
56 barned rhawd or beirniaid draw
57 Ai hywaith fy nihewyd
58 i mi fy myw am fy myd
dd' ap Gwilym